This job is in your area. Enjoy a short commute and work close to home.
Job Description
Mae'r Ystafell Rheoli Diogelwch (SCR) yn lle canolog pwysig o fewn yr Adran Diogelwch, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu pawb ar yr ystâd.
Prif ddiben y swydd hon yw sicrhau diogelwch yr holl randdeiliaid drwy reoli’n effeithiol a chydgysylltu’r holl systemau diogelwch a chyfathrebu er mwyn cadw pawb yn saff.Drwy gael dau reolwr ymroddedig o fewn yr Ystafell, mae hyn yn rhoi mwy o atebolrwydd rheolaeth ac ymreolaeth i'n gweithredwyr sydd wedi cael hyffroddiant uchel, sy'n deall gofynion unigryw'r amgylchedd hwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n bennaf mewn ystafell reoli fodern sydd wedi’i hadeiladu i’r diben, gyda system teledu cylch cyfyng manyleb uchel a uwchraddiwyd yn ddiweddar a system ochr flaen o drin y larymau.
Y tu hwnt i weithredu arferol, un o’r cyfrifoldebau allweddol fydd arwain a chydgysylltu ymatebion i sefyllfaoedd argyfwng gan ddarparu cyfeiriad clir, pendant a di-gyffro i dimau gweithredol a rhanddeiliaid, a sicrhau y ...